top of page
pathways.jpg

Llwybrau

Wedi’i anelu at y rheini yn yr eglwys leol, mae Llwybrau yn galluogi Cristnogion yng Nghymru i ddyfnhau eu dealltwriaeth o ffydd ac ymarfer ac i ddatblygu sgiliau mewn gweinidogaeth a chenhadaeth. Trwy addysgu rhyngweithiol sy’n gwahodd pawb i gymryd rhan, bydd Llwybrau yn eich galluogi i wneud cysylltiadau rhwng yr Eglwys a’r byd, rhwng dydd Sul a gweddill yr wythnos, gan gyfoethogi eich ysbrydolrwydd a’ch cynnwys yn y weinidogaeth a’r genhadaeth.

Beth yw Llwybrau?

Mae Llwybrau yn becyn hyblyg ac ymarferol o gyfleoedd dysgu - a gynhelir unwaith y mis ar ddydd Sadwrn. Mae pob modiwl yn para am ddau fis. Gallwch ddewis unrhyw nifer o fodiwlau, gan adeiladu credydau astudio wrth i chi symud ymlaen. Fe’i cynlluniwyd i arfogi ac ysbrydoli gweinidogaethau a chenhadaeth pobl sy’n gwasanaethu Crist trwy eglwysi Bedyddwyr lleol Cymru.

​

Pwy all ddilyn Llwybr?

Gall unrhyw un ymuno ar Llwybrau. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer pob math o bobl – fel Diaconiaid, Arweinwyr Addoli, Gweithwyr Plant, Arweinwyr Grwpiau TÅ· – mewn gwirionedd unrhyw un a gefnogir gan eglwys leol sydd eisiau bod yn fwy parod ar gyfer gwasanaeth yn y weinidogaeth a chenhadaeth, beth bynnag fo’ch profiad blaenorol neu gymwysterau addysgol. . Mae holl diwtoriaid y Modiwl yn ymarferwyr profiadol mewn gweinidogaeth a chenhadaeth ond mae Pathways hefyd yn cydnabod y cyfoeth o brofiad sydd gennych chi ac yn gwerthfawrogi rhyngweithiad yr holl gyfranogwyr wrth archwilio materion allweddol a safbwyntiau newydd. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol.

​

Pa lwybrau y gallaf eu dilyn?

Mae cylch llawn y cwrs Llwybrau yn cynnwys 11 modiwl (8 modiwl craidd a 3 modiwl arall a ddewiswyd). Mae pob modiwl wedi'i gynllunio i ddatblygu eich dealltwriaeth o ddiwinyddiaeth Gristnogol ac i ddarparu rhai o'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol fathau o genhadaeth a gweinidogaeth.


Mae hefyd yn bosibl cofrestru i gymryd Modiwlau unigol a ddewisir o'r rhaglen dreigl. Mae hyn yn golygu y gallwch astudio ar gyflymder sy'n gyfleus i chi, gan adeiladu portffolio o fodiwlau gorffenedig. Gall rhai pobl ddewis cymryd rhan yn y cwrs heb fod eisiau cyflwyno unrhyw waith ysgrifenedig i'w asesu'n ffurfiol.
Mae’r cyfleoedd dysgu hyn wedi’u cynllunio i gyd-fynd â bywydau prysur y rhai sydd eisoes yn gwasanaethu eglwysi lleol mewn gweinidogaeth a chenhadaeth. Mae'r modiwlau wedi'u gosod ar safon Lefel 3 ac felly'n sylfaen dda i'r rhai sy'n dymuno parhau i astudio ymhellach.

​

Yn ogystal â hynny, mae modd i fod yn rhan o grwp bugeiliol o dan arweiniad gweinidog profiadol. Mae hyn yn eich helpu datblygu eich bywyd ysbrydol yn ogystal â bod yn lle diogel i weddio a rhannu pryderon. Mae 'r modiwl yma'n cael ei asesu fel deuddegfed modiwl y cwrs.

​

Y modiwlau presennol yw:

  • Llwybrau at Addoli

  • Llwybrau i Gred Gristionogol

  • Llwybrau i mewn i'r Beibl

  • Llwybrau i Arweinyddiaeth Eglwysig

  • Llwybrau i Gred Radicalaidd

  • Llwybrau i Ddisgyblaeth a Diwylliant

  • Llwybrau i Genhadaeth ac Efengyliaeth

  • Llwybrau i Ofal Bugeiliol

  • Llwybrau i Ysbrydolrwydd a Thwf Personol

Ydy hyn yn iawn i chi?

Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â ni.

bottom of page